Yn y llun uchod: Amanda Stephens, Nyrs Iau; Sarah Stephens, Uwch Brif Nyrs Nicola Thomas, Uwch Brif Nyrs a Sharon Williams, Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd.
Abseiliodd staff o'r Uned Gofal Dwys (ICU) yn Ysbyty Glangwili, ac aelodau teulu a ffrindiau Jane Bacon, 100 metr i lawr ochr y Tŵr Spinnaker yn Portsmouth er cof amdani.
Roedd Jane wedi bod yn brwydro yn erbyn canser ers 2021 a daeth yn sâl yn ystod taith i ffwrdd gyda’i theulu. Derbyniwyd Jane i Ysbyty Glangwili ac yn anffodus bu farw oherwydd sepsis ym mis Medi 2022.
Cymerodd y tîm ran yn yr her ym mis Awst 2024 a chodwyd swm anhygoel o £3,570 ar gyfer yr ICU yn Ysbyty Glangwili.
Dywedodd Amanda Stephens, Prif NyrsIau a chyfneither i Jane: “Cymerodd deuddeg ohonom ran yn yr abseil. Mae rhai ohonom, gan gynnwys fi fy hun, yn arbennig o ofnus o uchder ac roedd yn ddiwrnod gwyntog ond fe wnaethom ei gwblhau ac rydym i gyd mor falch ohonom ein hunain. Gobeithio y byddai Jane yn falch hefyd.
“Mae’r teulu’n dragwyddol ddiolchgar i’m cydweithwyr a fu’n gofalu am Jane yn hynod o dda ac yn hapus y gallant roi rhywbeth yn ôl i’r ICU. Diolch i bawb a gyfrannodd at ein her.”
Dywedodd Nicola Llewelyn, Pennaeth Elusennau Iechyd Hywel Dda: “Hoffem ddiolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran yn yr abseil er cof am Jane.
“Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu yn nhair sir Hywel Dda ac rydym yn hynod ddiolchgar am bob rhodd a dderbyniwn.”