Neidio i'r prif gynnwy

Datblygu ein staff

Diolch i'ch rhoddion hael, gallwn gefnogi dysgu a datblygu staff a mentrau lles.

Yn ddiweddar, rydym wedi gallu ariannu cwrs Deall Canlyniadau Gwaed ar gyfer Ruth Williams, Technegydd Fferyllfa Gwasanaethau Canser (yn y llun uchod).

“Mae’r dysgu hwn wedi helpu i gynyddu capasiti clinigau cleifion allanol a rhyddhau clinigwyr lefel uwch i weld cleifion cymhleth neu newydd.”

Ruth yw'r technegydd fferyllfa cyntaf i weithio o fewn tîm gwasanaethau canser Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda ac mae'n adolygu ac yn archebu profion gwaed yn rheolaidd wrth fonitro goddefgarwch ac ymateb claf i driniaeth canser.

Dywedodd Ruth: “Rwy'n hynod ddiolchgar bod cronfeydd elusennol wedi caniatáu i mi gymryd rhan yng nghwrs Deall Canlyniadau Gwaed Diweddariad M&K.

“Mae'r cwrs wedi rhoi'r cyfle i mi wella fy nealltwriaeth a theimlo'n fwy hyderus wrth gyfleu canlyniadau i gleifion. Rwyf bellach yn gallu archebu a dehongli profion gwaed yn gywir i sicrhau cost-effeithiolrwydd a diogelwch triniaethau canser.

Dilynwch ni: