Diolch i roddion hael, mae Elusennau Iechyd Hywel Dda darparu dros £20,000 ar gyfer lamp newydd ar gyfer yr Adran Achosion Brys a’r Uned Mân Anafiadau yn Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg.
Mae’r lamp yn ddarn pwysig o offer wrth gynnal archwiliad llygaid cynhwysfawr. Gellir defnyddio'r offeryn i archwilio'r llygaid yn fanwl a phenderfynu a oes unrhyw annormaleddau. Mae'r lamp hefyd yn sicrhau y gellir trafod canlyniadau gyda chleifion ac arbenigwyr ar unwaith.
Gall lamp helpu i wneud diagnosis o sawl mater gan gynnwys anaf, afiechyd neu niwed i rannau o'r llygad; cyrff tramor yn y llygad; syndrom llygaid sych; datodiad retinol; dirywiad macwlaidd, a glawcoma.
Trwy brynu'r offer a'r dechnoleg ddiweddaraf, mae cronfeydd elusennol yn gwella gofal cleifion a chymorth staff i ddarparu'r gwasanaeth mwyaf effeithlon y gallant.
Dywedodd Dr Antony Varekattu Mathew, Ymgynghorydd Meddygaeth Frys/Cyfarwyddwr Rhaglen Sylfaen Arweinydd Clinigol: “Rydym mor ddiolchgar bod rhoddion hael gan ein cymuned leol wedi ein galluogi i brynu’r darn amhrisiadwy hwn o offer a fydd o fudd i gleifion am flynyddoedd lawer i ddod."
Nid yw’r rhoddion elusennol hael a gawn gan gleifion, eu teuluoedd a’n cymunedau lleol yn disodli cyllid y GIG ond fe’u defnyddir i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i’r hyn y gall y GIG ei ddarparu.
Mae cefnogaeth ein cymunedau lleol yn ein galluogi i brynu’r offer a’r dechnoleg ddiweddaraf a all gael effaith hynod gadarnhaol ar ein gwasanaethau GIG lleol.