Mae’n debygol iawn y bydd eich cwsmeriaid, gweithwyr neu gleientiaid, neu eu hanwyliaid, wedi elwa o roddion a wnaed i Elusennau Iechyd Hywel Dda ar ryw adeg yn eu bywydau.
Mae partneriaeth ag Elusennau Iechyd Hywel Dda yn cynnig potensial enfawr ar gyfer rhoi gwerth i'ch rhaglenni cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR). Gallwn helpu eich sefydliad drwy ymgysylltu â gweithwyr, cyhoeddusrwydd, a hyrwyddo eich ymdrechion dyngarol yn eich ardal leol.
Mae pob partneriaeth a ffurfiwn gyda busnes lleol yn unigryw ac yn seiliedig ar amgylchiadau unigol. Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn trafod meysydd o gydweithio boed yn ymwneud â nawdd neu gyfrannu nwyddau neu wasanaethau.
Beth am ystyried Elusennau Iechyd Hywel Dda yn Elusen y Flwyddyn o’ch dewis – ffordd wych o ddod â’ch holl weithlu ynghyd i ddatblygu cyfres o weithgareddau codi arian?
Mae gennym bob amser amrywiaeth o brosiectau a datblygiadau a fyddai’n briodol ar gyfer cymorth corfforaethol:
Os ydych eisoes wedi cynllunio neu'n cynllunio digwyddiad codi arian yn eich cwmni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych i drafod cydweithio er budd eich cymuned leol.
Newid Mân yn dod yn Newid Mawr!
Mae’r cynllun yn cymryd ambell geiniog o gyflog misol gweithwyr ac yn rhoi’r rhain ar eu rhan i elusen.
Er enghraifft, pe bai gweithiwr yn ennill £895.38 ac os yw wedi dewis ymuno â'r cynllun, byddai'n cadw'r £895 a byddai'r 38c yn cael ei roi i'r elusen enwebedig. Yr isafswm rhodd misol fyddai 1c a'r rhodd fisol uchaf fyddai 99c.
I ddarganfod sut y gallwch ymuno â Newid Mân, Newid Mawr fel cyflogwr ac enwebu Elusennau Iechyd Hywel Dda fel eich elusen ddewisol, cysylltwch â ni. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Newid Mân, Newid Mawr (agor mewn dolen newydd)
I drafod sut y gall eich busnes gefnogi eich elusen GIG, cysylltwch â ni! Byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.