Neidio i'r prif gynnwy

Sialens Llinell Sip 2025

Sialens Llinell Sip Elusennau Iechyd Hywel Dda 2025

 

Beth am wthio eich hun i’ch terfynau a chymryd rhan yn ein Sialens Llinell Sip yn Chwarel y Penrhyn, gogledd Cymru? Ymunwch â thîm Elusennau Iechyd Hywel Dda am brofiad gwirioneddol unigryw a chyffrous sydd hefyd o fudd i'ch GIG lleol!

 

Beth yw'r Sialens Llinell Sip?


Gan weithio mewn partneriaeth â Zip World mae gennym 20 o leoedd i unigolion hedfan i lawr y llinell sip gyflymaf yn y byd: Velocity. Byddwch yn hedfan dros Chwarel y Penrhyn gan deithio ar gyflymder o hyd at 100mya tra’n mwynhau golygfeydd diguro o Eryri.

Bydd Velocity yn mynd â chi i lawr llinell sip 1.5 cilometr, gan roi hyd at ddwy awr o antur anhygoel i chi. Gyda phedair llinell gyfochrog dros ddwy linell sip ar wahân, mae Velocity yn caniatáu ichi fwynhau'r profiad ochr yn ochr â'ch teulu a'ch ffrindiau. Darganfod mwy am y profiad Velocity @ https://www.zipworld.co.uk/adventure/velocity

 

Nawdd:

Gofynnwn i chi addo codi isafswm o £150 mewn nawdd ar gyfer ein helusen. Sylwch y gall ymgeiswyr ddewis cefnogi ysbyty, ward, gwasanaeth neu adran benodol NEU gallwch ddewis codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol. Mae codi arian at ddibenion elusennol cyffredinol yn golygu y bydd eich arian yn cael ei wario lle a phryd y mae ei angen fwyaf.

 

Cyfyngiadau Velocity:

Pwysau: Isafswm 30kg, Uchafswm 120kg

Uchder: Isafswm 120cm (4 troedfedd), Uchafswm 210cm (7 troedfedd)

Oedran: Isafswm 18 oed


Gwiriwch wefan Zip World ynglŷn â:

 

Cofrestrwch heddiw!

Bydd ein lleoedd cyfyngedig yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin felly cliciwch yma i dalu eich ffi gofrestru na ellir ei had-dalu o £25.

Unwaith y byddwch wedi talu eich ffi gofrestru, llenwch y ffurflen archebu ar-lein yma.

Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich lle unwaith y bydd y ffurflen archebu wedi'i chwblhau a byddwn hefyd yn rhoi rhywfaint o gymorth i chi i'ch helpu i godi arian ar gyfer eich elusen GIG leol.


Diolch am eich cefnogaeth a mwynhewch y reid!

Dilynwch ni: