Cefnogir Elusennau Iechyd Hywel Dda gan Gronfa Gymunedol Leol Co-op. Mae 2c o bob punt sy'n cael ei gwario ar gynnyrch brand Co-op dethol yn mynd i sefydliadau ac achosion cymunedol lleol fel ni.
I gefnogi eich elusen GIG, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho ap Co-op a'n dewis ni fel eich achos newydd
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu pecynnau iechyd i gefnogi lles meddwl cleifion sy'n derbyn triniaethau gwrth-ganser yn ein hysbytai.
Mae'r ddolen hon yn (agor mewn dolen newydd) mynd â chi'n uniongyrchol at ein hachos.
Gallwch gefnogi Elusennau Iechyd Hywel Dda am DDIM drwy ymuno â Easyfundraising. Gallwch godi rhoddion pryd bynnag y byddwch yn siopa ar-lein gyda dros 7,000 o frandiau gan gynnwys John Lewis & Partners, eBay, Argos, M&S a mwy. Hefyd, ar ôl i chi godi eich £5 cyntaf, bydd Easyfundraising yn ei ddyblu! Cofrestrwch heddiw - bydd yn gwneud gwahaniaeth MAWR i ni eleni! Mae'r ddolen hon yn mynd â chi i'r dudalen Easyfundraising (yn agor yn tab newydd)