Elusennau Iechyd Hywel Dda yw elusen swyddogol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Nod ein helusen yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd, lles a phrofiad cleifion, defnyddwyr gwasanaeth a staff GIG ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro.
Gyda’ch cefnogaeth chi, gallwn wella gofal, profiad a chanlyniadau ar gyfer:
Nid yw’r rhoddion elusennol hael a gawn gan gleifion, eu teuluoedd a’n cymunedau lleol yn disodli cyllid y GIG. Cânt eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau a gweithgareddau y tu hwnt i wariant craidd y GIG megis:
Gall ein cefnogwyr ddewis rhoi neu godi arian at ddibenion elusennol cyffredinol neu ar gyfer gwasanaeth neu ysbyty penodol.
Darllenwch fwy am ein heffaith (agor mewn dolen newydd)
Os ydych yn aelod o staff ac os hoffech wneud cais am arian elusennol ar gyfer eich gwasanaeth, gweler ein tudalen bwrpasol ar fewnrwyd y staff.(agor mewn dolen newydd)